Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
7 Hydref 2011 |
Annwyl Gydweithiwr
Bydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru ar draws pob deiliadaeth. Er mwyn cynorthwyo’r ymchwiliad, hoffai’r Pwyllgor glywed eich barn ar y pwnc hwn.
Fel rhan o gylch gorchwyl yr ymchwiliad, bydd y pwyllgor yn ystyried:
¡ Pa mor effeithiol yw cymorthdaliadau cyhoeddus, yn enwedig y grant tai cymdeithasol, o ran cyflenwi tai fforddiadwy;
¡ A fanteisir i’r eithaf ar opsiynau amgen i gymorthdaliadau cyhoeddus;
¡ A yw Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn defnyddio’u pwerau’n effeithiol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i wella’r mynediad atynt;
¡ A oes digon o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sefydliadau ariannol ac adeiladwyr tai; ac
¡ A allai Llywodraeth Cymru hyrwyddo ffyrdd arloesol o gyflenwi tai fforddiadwy, er enghraifft defnyddio ymddiriedolaethau tir cymunedol neu fentrau cydweithredol, yn fwy effeithiol.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at celg.committee@wales.gov.uk
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Gwener 4 Tachwedd 2011. Efallai na fydd modd i ni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau gan y rheini sydd ar y rhestr ddosbarthu sydd ynghlwm. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno barn.
Datgelu gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor. O ganlyniad, gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth sy’n ategol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi’n glir pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
Ann Jones AC / AM
Cadeirydd / Chair
Annex
All Wales Chief Housing Panel (AWCHOP)
All Wales Housing Technical Panel
Agorfa Cefni
Caerphilly CBC
Cardiff Council
Chartered Institute of Housing Cymru
Chartered Institute of Housing Cymru
Citizens' Advice Bureau
City of Swansea
Community Housing Cymru
Council of Mortgage Lenders
Cymorth Cymru
Home Builders Federation
Landlord Accreditation Wales
National Landlords Association
National Landlords Association
NEA Cymru
Principality Building Society
Professor Steve Wilcox
Royal Institution of Chartered Surveyors
Royal Town Planning Institution Cymru
Shelter Cymru
Shelter Cymru
Sue Essex
The National Homelessness Network
The Wallich
Welsh Government
Welsh Tenants Federation
WLGA
WLGA
Blaenau Gwent County Borough Council
Bridgend County Borough Council
Caerphilly County Borough Council
Cardiff County Council
Carmarthenshire County Borough Council
City and County of Swansea
Conwy County Borough Council
Denbighshire County Borough Council
Flintshire County Borough Council
Gwynedd Council
Isle of Anglesey County Council
Merthyr Tydfil County Borough Council
Monmouthshire County Borough Council
Neath Port Talbot County Council
Newport City Council
Pembrokeshire County Council
Powys County Council
Rhondda Cynon Taff County Borough Council
Torfaen County Borough Council
Vale of Glamorgan Council
Wrexham County Borough Council